O 3 Mai, 2016, bydd gwasanaethau bws ar lwybr 19 yn cael eu gweithredu gan Llew Jones Coaches.
Mae dyfodol y llwybr masnachol hwn wedi bod yn ansicr, ond gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gadarnhau bod Llew Jones Coaches wedi cofrestru i ddechrau rhedeg gwasanaeth masnachol yn ystod y dydd o 3 Mai.
Bydd y gwasanaeth newydd yn rhedeg rhwng Llanrwst a Llandudno, heibio i Ffordd yr Ysbyty gan adfer y cyswllt rhwng y dyffryn ag Ysbyty Llandudno, a gyda rhai teithiau’n ymestyn i Fetws-y-coed.
Fel ychwanegiad at y gwasanaeth masnachol yn ystod y dydd, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ariannu gwasanaethau gyda’r nos a gwyriadau drwy Rowen a Henryd.
Dywedodd y Cynghorydd Philip Evans, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am gludiant cyhoeddus, “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi gweithredwr newydd ar gyfer y gwasanaeth 19. Hoffem ddiolch i’r holl deithwyr a gysylltodd am y gwasanaeth presennol a’u gofynion cludiant – roedd y wybodaeth hon yn amhrisiadwy pan oeddem yn edrych ar yr opsiynau i gael gwasanaeth sefydlog a chynaliadwy ar lwybr 19.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth i Gyngor Conwy i sicrhau’r gwasanaeth newydd.
Dywedodd y Gweinidog Cludiant, Edwina Hart: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cynorthwyo Cyngor Conwy i sicrhau gwasanaeth newydd mor sydyn â phosibl. Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu mynediad hanfodol i swyddi a gwasanaethau i lawer o bobl. Bydd y gwasanaeth newydd yn ymestyn nawr y tu hwnt i Gonwy, yn darparu cysylltiadau uniongyrchol i Ysbyty Cyffredinol Llandudno, ac yn cael ei integreiddio â gwasanaethau trên.”
Stephen LL. Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Llew Jones Coaches, “Fel preswyliwr lleol a darparwr gwasanaeth rwyf wedi cymryd diddordeb brwd yn nyfodol y gwasanaeth. Cyn gynted â’n bod yn gwybod fod darparwr arall yn dod â’r gwasanaeth i ben, ni wnaethom oedi o gwbl cyn darparu gwasanaeth tebyg, ond wedi’i deilwra yn well i ofalu am y gymuned leol.
“Hoffem ddiolch i Gyngor Conwy a Llywodraeth Cymru am eu cymorth er mwyn ein galluogi i symud ymlaen â hwn, ein gwasanaeth masnachol cyntaf. Rwy’n hyderus y bydd y gymuned yn ein cefnogi ni ac yn defnyddio’r bysiau i sicrhau dyfodol gwasanaeth 19 yn Nyffryn Conwy.”
Bydd manylion llawn am y gwasanaeth newydd yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Yn y cyfamser, os oes gan deithwyr unrhyw ymholiadau, e-bostiwch cludiantcyhoeddus@conwy.gov.uk neu ysgrifennwch at Adran Cludiant Cyhoeddus, Gwasanaethau Cymunedol, Adeilad y Llyfrgell, Mostyn Street, Llandudno, LL30 2RP